Created 25-Jun-12
0 photos

Natur yn galw..! Mae ein cynhyrchiad nesaf yn addo bod yn chwa o awyr iach - yn llythrennol. Mi fydd y cwmni’n teithio gyda chomedi gwreiddiol am grŵp o bobol sy’n awyddus i brofi natur ar ei wylltaf mewn lleoliadau awyr agored yn y Gogledd.

Yn dilyn cyfnod o gydweithio gydag awdur o’r Iseldiroedd, Madeleen Bloemendaal, ar ei drama ‘Man op Tak’, fe fydd y cynhyrchiad yn dilyn helyntion doniol pump o unigolion sydd wedi ymgynnull dros benwythnos i fyw fel anifeiliaid. Peth od ydi trefnu i fynd yn wyllt, ac mae ambell un yn llawer mwy parod i fynd yn ôl at natur na’i gilydd. Beth bynnag ddigwyddith, anghofian nhw byth mo’r profiad - yn naturiol.

Yn ôl Madeleen Bloomendal: “Mae dod i Gymru wedi ‘Cymregeiddio’ hiwmor ‘Ga’ i fod..?” yn llwyr, ond ar yr un pryd mae’r themau’n parhau i fod yn rhyngwladol ac yn berthnasol i bawb – hyd yn oed os nad ydych yn deall yr iaith. I mi mae hyn yn bwysig: darganfod yr hyn sy’n gyffredin i’r gynulleidfa beth bynnag eu cefndir.”

Dywedodd Bryn: “Mae pobol yr un fath ym mhobman, ond beth am anifeiliaid?
Mae’n gynhyrchiad corfforol, gweledol a hwyliog sy’n adrodd cyfrolau am fodau
dynol. Mae wedi bod yn bleser pur cyd-weithio â Madeleen”.


Cyfarwyddwyr: Madeleen Bloemendaal a Bryn Fôn
Actorion: Rhian Cadwaladr, Iwan Charles, Carys Gwilym, Mared Elliw Huws,
Merfyn Pierce Jones
This gallery is empty.

Categories & Keywords
Category:
Subcategory:
Subcategory Detail:
Keywords: